Lillian Wald | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1867 Cincinnati |
Bu farw | 1 Medi 1940 o strôc Westport, Connecticut |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | nyrs, gweithiwr cymdeithasol, ymgyrchydd heddwch, swffragét, ysgrifennwr |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod |
Ffeminist Americanaidd oedd Lillian Wald (10 Mawrth 1867 - 1 Medi 1940) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros heddwch, gweithiwr dros hawliau dynol a swffragét.[1] Hi sefydlodd y syniad o nyrsio cymunedol yn Unol Daleithiau America pan ddechreuodd y Henry Street Settlement yn ninas Efrog Newydd yn ogystal â'r polisi o gael nyrs ym mhob ysgol y wladwriaeth.[2][3][4][5][6]
Ymgyrchodd dros etholfraint, sef yr hawl i fenywod gael bwrw eu pleidlais ac roedd yn gefnogwr cry i integreiddio hiliol. Roedd yn rhan o sefydlu'r Gymdeithas Genedlaethol er Hyrwyddo Pobl Liw (NAACP) (Association for the Advancement of Colored People) hefyd.
Enwebodd y New York Times Lillian Wald, yn 1922, fel un o'r 12 menyw Americanaidd mwyaf a oedd yn fyw, ac yn ddiweddarach derbyniodd Fedal Lincoln am ei gwaith fel "Dinesydd Eithriadol o Efrog Newydd." Darllenodd Sara Delano Roosevelt lythyr gan ei mab, yr Arlywydd Franklin Roosevelt, lle canmolodd Wald am ei "llafur anhunanol i hyrwyddo hapusrwydd a lles pobl eraill."
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search